Gras, Gobaith a Gogoniant

Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan

By (author) D. Densil Morgan

Paperback - £16.99

Publication date:

Q3 2024

Length of book:

128 pages

Publisher

Gwasg Prifysgol Cymru

Dimensions:

216x138mm

ISBN-13: 9781837721986

Un o dadau cenedlaetholdeb modern yw Emrys ap Iwan (1848–1906), y pregethwr Methodist o Ddyffryn Clwyd. Hon yw’r gyfrol gyntaf arno sy’n dadansoddi’n fanwl seiliau beiblaidd a chrefyddol ei weledigaeth. Mae’n cloriannu ei gefndir a’i fagwraeth, ei addysg yng Ngholeg y Bala ac ar y cyfandir, y dylanwadau Ewropeaidd arno, a’r modd yr aeth ati i ddwyn perswâd ar ei gyfoeswyr i ymwrthod â’r bydolwg Prydeinig a Seisnig. Ceir yn ei homilïau athrawiaeth Gristnogol aeddfed a gwâr, wedi’i mynegi mewn Cymraeg rhywiog ac yn gyfraniad arhosol i feddwl y genedl; mae’r cysyniadau o ras, gobaith a gogoniant yn cael lle blaenllaw. Yn ogystal ȃ thrafod ei gyd-destun hanesyddol, mae’r gyfrol hefyd yn tanlinellu gwreiddioldeb gwaith Emrys ac yn pwysleisio’i berthnasedd i’r Gymru gyfoes.