Dwy Gymraes, Dwy Gymru

Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders

By (author) Rosanne Reeves

Not available to order

Publication date:

15 June 2014

Publisher

University of Wales Press

ISBN-13: 9781783161997

Cyflwyniad o fywyd a gwaith dwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a geir yn y llyfr hwn. Mae’n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes gan nad oes ymchwil manwl wedi ei wneud cyn hyn ar Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders, dwy a bontiodd y bwlch rhwng yr awduresau petrusgar a ddenwyd allan o’u hogofâu gan Granogwen, golygydd y Frythones (1879–89), a’r rhai a ddaeth ar eu hôl yn yr ugeinfed ganrif. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at yr amryw gyfrolau ac erthyglau sydd wedi ymddangos ers yr 1980au ar gyfraniad hollbwysig y Gymraes at ddiwylliant ei chenedl. Mae’n lyfr delfrydol i unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a llenyddiaeth y Gymraes yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan dorri tir newydd yn hanes llenyddiaeth y Gymraes a chyfoethogi ein dealltwriaeth o awduron benywaidd anghofiedig y Gymru Gymraeg.